Noddir Bwndeli Cynnal Cartref Ail-ddeffro i Bobol Ifanc Anghenus gan ‘Fine & Country’
- Rekindle
- Mar 19
- 2 min read
Gwyddom bod symud i gartref newydd yn brofiad cyffrous ond hefyd yn llethol, yn arbenning felly i bobol ifanc nad oes ganddynt nemor rwydwaith gynnaladwy. Ond, gyda diolch i ‘Fine & Country’, gallwn roi nid yn unig yr anghenion ymarferol ond hefyd y cysuron bychain sy’n gwneud i dŷ deimlo fel cartref. Mae hyn yn fwy nag eitemau; mae’n estyniad i’n cynhaliaeth, gan adeiladu sefydlogrwydd, annibyniaeth a dechreuad newydd.
Fel canlyniad i ariannu hael ‘Fine & Country’, bydd yr uchelgais newydd trawsnewidiol yn sicir o gael ardrawiad parhaol ar fywydau pump o bobol ifanc sy’n symud i’w cartrefi ei hunain. Bydd y cyllid yn galluogi cyflenwi darpariaeth Bwndeli Cynnal Cartref gan sicrhau bod gan bobol ifanc yr adnoddau hanfodol i sefydlu cartref diogel, cynnes a chyfforddus.
Mae’r uchelgais yn gonglfaen ein gwasanaeth Cynnal Lles. Mae’r prosiect yma yn cynnig cynhaliaeth pwrpasol gan ymarferwyr iechyd meddwl sy’n gweithio’n agos gyda phobol ifanc i sefydlu uchelgeisiau a gweithredu mewn mannau hanfodol yn eu bywydau. Cael mynediad addysgol neu i waith cyflogedig, newid ymarweddiad afiach, cyflawni budd-daliadau neu ddod o hyd i gartref diogel - mae Cynnal Lles yn ymroddedig i alluogi pobol ifanc ar eu taith i annibynniaeth.
Dim ond rhan o’r sialens yw cael hyd i gartref. Mae’r argyfwng costau byw a chostau uchel blaendaliadau a ffioedd ymhell o gyrraedd llawer o bobol ifanc i allu wneud tŷ yn gartref. Dyma pryd bydd Bwndeli Cynnal Cartef yn ddefnyddiol.
Dyfeiswyd y bwndeli i ddathlu a chynnal pobol ifanc sy’n symud i’w cartefi newydd. Maent yn cynnwys hanfodion ynni-effeithlon fel bylbiau LED, popty araf a chyfarwyddiadau, blanced gwresog, tegell ynghyd â gwybodaeth sut i redeg cartref yn gost effeithiol. Bydd eitemau ymarferol yn y bwndeli fel hylif golchi llestri a phapur tŷ bach a hefyd gysuron fel cannwyll bersawrus, siocled poeth a bisgedi. Mae’r cyfan yn sicrhau bod pobol ifanc yn teimlo bod croeso a gofal iddynt yn eu lle newydd nid yn unig y pethau maent eu hangen.
Mae ariannu sefydliad ‘Fine & Country’ yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae'n pontio’r bwlch rhwng cael tŷ a gwneud amgylchedd gynhaliadwy a chyfforddus i fyw ynddo. Rydym yn ddiolchgar dros ben am gymorth ‘Fine & Country’ a’u cynhaliaeth i helpu pobol ifanc adeiladu iddynt eu hunain ddyfodol annibynnol a safadwy.
Comments