top of page
Search

Gwirfoddoli gyda Ail-ddeffro: Ennill Sgiliau, Mewnwelediad i Ddyfodol mewn Seicoleg

Bu imi ymestyn at Ail-ddeffro oherwydd fy niddordeb yn y gwaith y mae’r elusen yn ei gyflawni. Gan ei bod yn cynnal pobol rhwng 16 a 25 oed, mae’n fwy addas i mi gan ei bod yn agosach i’m hoedran. Y rheswm pennaf imi ymestyn ati yw fod yr elusen yn cyfunioni’n agos at uchelgeisiau fy ngyrfa ac roeddwn eisiau dysgu mwy am y maes hwn a’r hyn y mae’n ei olygu.


Bu fy mhrofiad o wirfoddoli yn bositif ac yn broffidiol gan roi imi ddigonedd o wybodaeth am yr yrfa hon tra’n fy nghynorthwyo i ddatblygu sgiliau newydd fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol a hefyd i weithio’n fwy effeithiol.


Trwy wirfoddoli, cefais ddealltwriaeth drwyadl o’r yrfa a’i dyletswyddau. Defnyddiais y profiad yn fy nghais prifysgol i arddangos fy nghyfranogiad a’m dealltwriaeth o’r sector y dymunaf weithio ynddo.


Hoffwn symbylu eraill i wirfoddoli gyda Ail-ddeffro gan ei fod yn brofiad addysgol gwych ac yn caniatáu i bobol ddewis yr hyn y maent eisiau elwa ohono. Buaswn yn cynghori unrhywun sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn seicoleg i wirfoddoli yma gan y byddai’r profiad a’r wybodaeth yn ddefnyddiol ac adeiladol i ddyheadau gyrfa a phenderfyniadau.



Young woman standing by a pot plant

 
 
 

תגובות


אי אפשר יותר להגיב על הפוסט הזה. לפרטים נוספים יש לפנות לבעל/ת האתר.
bottom of page